Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin

CAP 15 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

 

 

PWYLLGOR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU:  YMCHWILIAD GRŴP GORCHWYL A GORFFEN Y POLISI AMAETH CYFFREDIN I DDIWYGIO’R POLISI AMAETH CYFFREDIN

 

CYFLWYNIAD GAN ASIANTAETH YR AMGYLCHEDD CYMRU

CRYNODEB

 

·       Taclo mathru pridd ac erydu glannau afonydd gan dda byw.

·       Gwella rheolaeth buarthau ffermydd a seilwaith megis  mannau gwell i gadw piswail a                   gwahanu dŵr glân a dŵr budur

·       Mynnu rheoli maetholion fel safon

 

1.0        Cyflwyniad

 

1.1       Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r prif reolydd amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr, gyda chyfrifoldeb dros amddiffyn pridd, aer a dŵr.  Mae gennym ni hefyd ddyletwysddau pwysig i gynnal, gwella a diogelu bioamrywiaeth cysylltiedig â dŵr a physgodfeydd yng Nghymru.   Rydym ni'n gweithio i wella perfformiad amgylcheddol amaethyddiaeth drwy ddulliau polisi cyfun, gan gynnwys cynghori, mentrau gwirfoddol, codau ymarfer a rheoleiddio.  Rydym ni’n croesawu’r cyfle i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin.

1.2       Mae ffermydd Cymru’n darparu nwyddau a gwasanaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol arwyddocaol ac yn bennaf gyfrifol am gynnal tirluniau sydd o fudd i amrywiaeth o wasanaethau ecosystem, gan gynnwys y diwydiant twristiaid yng Nghymru.  Fodd bynnag, gall ffermio hefyd amharu ar yr amgylchedd.    Ond gellir lleihau’r effeithiau hyn yn arwyddocaol drwy newidiadau syml, rhad yn aml, a allai hefyd arbed costau i ffermwyr [1].  Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio gyda rheolwyr tir a’r diwydiant bwyd ehangach i wella perfformiad amgylcheddol ac, yn aml, i wneud amaethyddiaeth Cymru’n fwy cystadleuol.

1.3       Mae’r gwahanol broblemau sy’n cronni o ymhell dros 30,000 o ffermydd yn arwain at effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.   Mae gofyn cael amrywiaeth o atebion i daclo’r problemau hyn, o gynghori a gweithio mewn partneriaeth hyd at reoleiddio a phrynu nwyddau cyhoeddus.   Rydyn ni’n ceisio dylanwadu ar bob un o'r problemau i wella'r amgylchedd.    Rydyn ni’n credu mewn taclo problemau yn eu bôn, gall sicrhau fod tail a phiswail yn cael ei reoli yn unol ag ymarferion gorau fod yn fwy llwyddiannus nac edliw ar ôl i afonydd gael eu llygru

 

1.4       Mae llygredd dŵr yn un o'r prif bryderon amgylcheddol ymysg y cyhoedd yn y DU ac yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ail yn unig i newid hinsawdd yn yr Ewrofaromedr Arbennig ar yr Amgylchedd fis Mawrth 2008. Yn 2010 daeth asesiad Aelod Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd ar Gynlluniau drafft Rheoli Basn Afon[2]  i’r casgliad fod y diwydiant amaeth yn gosod pwysau ansoddol a meintiol ar ddyfroedd wyneb ac ar ddyfroedd daear.  Dangosodd canlyniadau fod llygredd nitrogen, gwasgaredig neu bwynt, yn cael ei adrodd yn 91% o’r Cynlluniau drafft, llygredd ffosfforws mewn 90% o achosion a llygredd plaladdwyr mewn 69% o’r Cynlluniau.  

 

2.0        Diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin – safbwynt Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

 

2.1       Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn aelod o’r Grŵp Polisi Defnydd Tir sy'n cynrychioli asiantaethau statudol amgylcheddol a chadwraeth y DU.    Mae gweledigaeth Diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin y Grŵp yn annog symud i ffwrdd oddi wrth gymorthdaliadau cynhyrchu a symud at brynu gwasanaethau amgylcheddol yn uniongyrchol oddi wrth reolwyr tir   Yr awgrym yw y dylai’r Polisi Amaeth Cyffredin ganolbwyntio ar ddiogeledd bwyd a'r amgylchedd drwy gefnogi darparu gwasanaethau amgylcheddol [3].

 

2.2           Mae’r Polisi Amaeth Cyffredin yn cyfrif am 40% (tua €60 biliwn) o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd.  Mae’r Polisi Amaeth Cyffredin yn hynod bwysig i Gymru gan fod Cymru’n derbyn tua €330 miliwn o dan Golofn 1[4] y Polisi'n flynyddol ac mae wedi derbyn €376.7 miliwn o dan Golofn 2 ar gyfer Cynllun Datblygu Cymru Weledig[5] 2007 – 2013. Dengys tystiolaeth o'r Arolwg Busnes Fferm[6] blynyddol fod ffermydd Cymru’n dal yn hynod ddibynnol ar gymorthdaliadau i gynnal eu busnesau ffermio.   

 

2.3          O dan Bolisi Amaeth Cyffredin diwygiedig, fe fyddem yn croesawu pe byddai amaethyddiaeth yn cael ei weld yng nghyd-destun ehangach darparu amrywiaeth o wasanaethau ecosystem i helpu taclo pryderon amgylcheddol, cymdeithasol a bioamrywiaeth.   Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi annog hyn ers tro, fel y gellir gweld o’r dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a gyflwynwyd i ymchwiliadau blaenorol Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin yn ogystal ag ymchwiliadau cysylltiedig, yn enwedig Gweithrediadau Rheoli Tir o dan Echel 2 Cynllun Datblygu Cymru Wledig, Rheoli a Lleihau Carbon Defnydd Tir Gwledig, Dyfodol Ucheldir Cymru.

 

2.4         Nid ffermio yw’r unig ffynhonnell o lygredd mewn dŵr yng Nghymru ond mae'n cyfrannu 60% o nitradau, 25% o ffosfforws a 70% o waddodion i ddyfroedd y genedl yn ogystal â llygryddion eraill [7].   Gyda thua 67% o gyrff dŵr yng Nghymru yn methu â chyrraedd statws ecolegol da Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd rydyn ni o’r farn y dylai canolbwyntio ar y Gyfarwyddeb fod yn flaenoriaeth i’r Polisi Amaeth Cyffredin.   Dengys ymchwil Asiantaeth yr Amgylchedd i Resymau dros fethu o dan y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr mai tir amaethyddol yw'r prif gyfrannwr at statws methu llawer o gyrff dŵr Cymru.  Rydyn ni’n awgrymu y byddai cynnwys amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn benodol yn y Polisi Amaeth Cyffredin Diwygiedig yn ffordd effeithlon o helpu i gyrraedd statws cemegol ac amgylcheddol da ac o rwystro cyrff dŵr (gan gynnwys Ardaloedd Gwarchodedig) rhag dirywio, yn annog defnyddio dŵr yn gynaliadwy ac yn helpu i leihau effeithiau niweidiol llifogydd a sychderau.   O gofio mai’r dylanwad pennaf ar statws Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr corff dŵr yw’r prosesau ffisegol a biolegol sy’n gweithredu ar raddfa tirlun, byddai defnydd tir sensitif yn cyfrannu at y cyfan o'r amcanion hyn.   Gallai Colofn 2 cynlluniau rheoli tir a’r Cynllun Datblygu Cymru Wledig ariannu gweithgareddau a fyddai’n

 

·         cadw effeithiau gwrteithiau a gwastraff ffermydd ar gyrsiau dŵr i’r lleiaf posibl.

·         adfer ‘llwybrau llifo’ naturiol i arafu llif dŵr a chael y fantais fwyaf o lystyfiant naturiol yn ei hidlo.  

·         darparu lle i gadw dŵr

·          adfer y cysylltiad rhwng sianeli a gorlifdiroedd i ddarparu mannau i gadw a hidlo dŵr a lleihau peryglon i ganolfannau poblog.  

·          adfer gwlypdiroedd yr arfordir i leihau peryglon llifogydd sy’n gysylltiedig â llanw uchel.

·         amddiffyn ac adfer llystyfiant mewn parthau afonydd i hidlo dŵr wyneb, gwella cynefin y dŵr a lliniaru effeithiau newid hinsawdd drwy gysgodi.

 

2.5       Rydyn ni hefyd o’r farn fod gan y Polisi Amaeth Cyffredin swyddogaeth bwysig mewn lliniaru newid hinsawdd ac y gallai gynnig nifer helaeth o fanteision.  Gallai dwy Golofn y Polisi Amaeth Cyffredin gefnogi mesurau a allai helpu lliniaru effeithiau newid hinsawdd, er enghraifft:

 

·         Amddiffyn dŵr a phriddoedd gyda gorchudd y gaeaf, lleiniau byffer a mannau o borfa mewn caeau.  

·         Amddiffyn y carbon sy’n cael ei gadw mewn priddoedd a llystyfiant.  

·         Rheoli tir i leihau dŵr ffo ar yr wyneb

·         Cynyddu gorchudd gan goed i gadw carbon, rhoi cysgod a noddfa i dda byw a chynefin i fywyd gwyllt.  

 

 

 

3.0        YMATEBION I GWESTIYNAU’R YMGYNGHORIAD

 

Mae ein hymatebion i gwestiynau / pwyntiau penodol yr ymgynghoriad fel a ganlyn:

 

C1.        Beth fydau cynigon y Comisiwn Ewropeaidd yn ei olygu i Gymru?

 

3.1        Rydym ni’n nodi fod y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig partneriaeth newydd rhwng yr Aelod Wladwriaethau a’i ffermwyr i gyfarfod heriau diogeledd bwyd a defnydd cynaliadwy o adnoddau a thwf naturiol.  Rydym ni’n croesawu’r cynnig hwn gan y byddai Llywodraeth Cymru’n gallu ystyried beth fyddai’r ffordd orau o ddefnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd o dan y Cynllun Datblygu Gwledig, Cronfeydd Strwythurol a'r Gronfa Bysgodfeydd Ewropeaidd i wireddu dyheadau strategaeth Ewrop 2020.  

3.2                      Mae Erthygl 93 o Reoliad Llorweddol y Polisi Amaeth Cyffredin yn dweud:

 

            “Bydd Cyfarwyddeb 2000/60/EC 23 Hydref 2000, sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu gan y Gymuned ym maes polisi dŵr, yn cael ei ystyried fel rhan o Anecs II unwaith y bydd y Gyfarwyddeb hon yn cael ei gweithredu gan bob Aelod Wladwriaeth a bod y cyfrifoldebau sy’n uniongyrchol berthnasol i ffermwyr wedi’u nodi.

 

            Rydyn ni’n croesawu dymuniad yr Undeb Ewropeaidd i gynnwys y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yng nghylch gorchwyl trawsgydymffurfiad fis Ionawr 2013 (erthygl 11.7 y Gyfarwyddeb) ac i gydnabod y Gyfarwyddeb fel gyrrwr allweddol deddfwriaeth ar gyfer amddiffyn a gwella’r amgylchedd.   Gan fod y Gyfarwyddeb yn gosod amcanion heriol ynghylch amddiffyn iechyd ecolegol yr amgylchedd sy'n seiliedig ar ddŵr, mae'n hanfodol bwysig bod yr amcanion hynny’n cael eu cynnwys mewn ymarferion rheoli tir yn y dyfodol a'u bod yn gallu cynorthwyo’r diwydiant i gyfarfod â heriau amgylcheddol.    

Newidiadau trawsgydymffurfiad

3.3       Rydym ni wedi gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru wrth iddi geisio llyfnhau a lleihau'r baich gweinyddol ar y diwydiant ffermio.   Er ein bod yn croesawu'r bwriad yn Niwygiadau’r Polisi Amaeth Cyffredin i lyfnhau’r drefn trawsgymffurfio, rydym ni o'r farn y gellid newid y gofynion trawsgydymffurio sy’n aros a’u cryfhau i sicrhau fod y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn nodwedd allweddol o drawsgydymffurfio, yn enwedig:

 

·          Darparu digon o adnoddau cadw piswail a silwair i rwystro llygredd;  

·         Cadw pridd, ased pennaf ffermio, yn y caeau ac allan o gyrsiau dŵr.  

·         Taclo mathru pridd ac erydu glannau afonydd - rheoli'r ffordd y mae da byw yn cael mynd at y dŵr drwy sefydlu lleiniau byffer sy'n gweithio'n ecolegol.  Gall ffensio cyrsiau dŵr arwain at gryn welliant mewn ansawdd dŵr.

 

3.4       Er bod yna ddyhead yn y cynigion i Ddiwygio'r Polisi Amaeth Cyffredin i amddiffyn gwlypdiroedd a phriddoedd carbon gyfoethog, gan gynnwys gwahardd aredig, rydyn ni hefyd o'r farn y byddai yna rinwedd mewn ymestyn mesurau Amodau Amaethyddol ac Amgylcheddol Da i gynnwys cydymffurfio ag elfennau allweddol y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) Silwair Piswail ac Olew Tanwydd Amaethyddol (Cymru).    Rydym ni o’r farn y byddai cynnwys yr elfennau allweddol hyn yn amddiffyn cyrsiau dŵr ymhellach rhag ffynonellau allweddol o lygredd organig, llawn maetholion, o ffermydd.   Elfennau allweddol y rheoliadau y gellid eu cynnwys mewn trefn ddiwygiedig o drawsgydymffurfio yw:

 

·         Nad yw dŵr yn gallu treiddio drwy unrhyw fan cadw a'u bod o leiaf 10 metr o unrhyw gwrs dŵr.

·         Bod yn rhaid i bob man cadw piswail fod yn gallu cadw'r holl biswail sy'n cael ei gynhyrchu ar y fferm, nad yw'n gollwng nac mewn perygl o orlifo.   

·         Bod yn rhaid i bob man cadw silwair fod â system casglu a chadw elifiant ac nad yw'n gallu gorlifo.

 

3.5        Mae gofyn cael y mesurau hyn er mwyn sicrhau nad yw hylif llawn maetholion yn gallu llifo i gyrsiau dŵr.   Dangosodd ymchwiliadau diweddar y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr fod diffyg cydymffurfiad ag elfennau allweddol y Rheoliadau yn cyd-fynd â digwyddiadau difrifol o dda byw yn mathru.   Fe fyddem yn bryderus pe byddai gwaith archwilio a monitro yng Nghymru yn cael ei wanhau ymhellach gan y byddai hynny’n llesteirio’n ddifrifol allu Llywodraeth Cymru i gyfarfod ei dargedau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol.

 

Cydran “Elfen Werdd” y Polisi Amaeth Cyffredin

 

3.6       Rydym yn nodi cynigion yr Undeb Ewropeaidd i gyflwyno “elfen werdd” Colofn 1 y Polisi Amaeth Cyffredin.  Y tri mesur a ragwelir yw:

 

 

3.7        Rydym ni o’r farn ei bod yn bwysig sicrhau fod y gwahaniaeth rhwng 'elfen werdd' Colofn 1 y Polisi Amaeth Cyffredin a thrawgydymffurfio, gan gynnwys Amodau Amaethyddol ac Amgylcheddol Da yn cael eu cydnabod a bodd gweithredu'r 'elfen werdd' yn cael ei ystyried yn ofalus.  

 

3.8        Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cydnabod fod da byw angen dŵr i’w yfed.  Fodd bynnag, gallai ei gadael i grwydro’n rhydd i afonydd arwain at fathru ac erydu glannau’r afonydd a'u gwelyau hefyd.  Gall dulliau syml a chyffredin o reoli sut y mae stoc yn cael yfed o gyrsiau dŵr arwain at gryn welliant mewn ansawdd dŵr a chynefinoedd.   Gellir cymharu hyn a chysyniad y Rheolau Clymu Cyffredinol yn yr Alban a’r daflen Llygredd Gwasgaredig GBR 19: Keeping livestock[8].  O dan drefn trawsgydymffurfio lyfnach drwy ‘elfen werdd’ Colofn 1 y Polisi Amaeth Cyffredin, fe hoffem ni weld yr ymarferion gwael uchod yn derbyn sylw brys.

 

3.9        Rydym ni hefyd yn amlygu pwysigrwydd ‘elfen werdd’ Colofn 1 (ar y cyd â Cholofn 2 y Polisi Amaeth Cyffredin) mewn gwireddu gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.   Er bod yn rhaid cael cynlluniau cynaliadwy ar gyfer rheoli tir (megis Glastir) er mwyn helpu'r diwydiant i gyfarfod â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gwirfoddol ydyn nhw a heb fod yn cael eu gweithredu ledled y wlad.   O gofio mor ddaearyddol helaeth y mae methiannau cyrff dŵr yng Nghymru, ni fydd mesurau Colofn 2 y Polisi Amaeth Cyffredin ar eu pen eu hunain yn arwain at wella cymaint ag sydd ei angen.   Bydd gan fesurau ‘elfen werdd’ Colofn 1 y Polisi, felly, gymaint o ran â Cholofn 2 i'w chwarae mewn gwireddu gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.  

Diddymu mesurau Echelau Colofn 2

3.10      O dan y cynigion presennol ar gyfer diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin rhagwelir hefyd y bydd trefniadau'r Cynllun Datblygu Gwledig yn cael eu newid ar gyfer 2013 - 2020 drwy ddiddymu strwythurau’r pedair echel er mwyn gallu cyrraedd yn well amcanion strategaeth Ewrop 2020 ar gyfer twf call, cynaliadwy a chynhwysol.  Rydyn ni o’r farn fod hyn yn ddatblygiad positif ac y gallai arwain at welliannau amgylcheddol mwy cyfun.   Ond, er hynny, rydym yn cydnabod y bydd yn rhaid talu sylw i amcanion tymor hir Datblygu Gwledig o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, bod datblygu tiriogaethol yn gytbwys ac yn gystadleuol ac y gellir eu gwireddu drwy ddilyn chwe blaenoriaeth glir yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig:

·         Gwneud pob math o amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol

·         Cadw a gwella’r ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth

·         Hyrwyddo defnyddio adnoddau’n effeithiol a symud at economi garbon isel  

·         Hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd a rheoli risg mewn amaethyddiaeth

·         Meithrin trosglwyddo gwybodaeth mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth

·         Gwireddu potensial datblygu ardaloedd gwledig i greu cyflogaeth

3.11      Byddai hyn yn gyfle i amlinellu themâu neu weledigaeth glir ar gyfer amgylchedd Cymru.  Gallai Cynllun Datblygu Gwledig ôl 2013, yn cael ei yrru gan Lywodraeth Cymru a chyda'r Fframwaith Amgylcheddol Naturiol fel egwyddorion arweiniol clir, hyrwyddo diwydiant amaethyddol ac amgylchedd gynaliadwy, fywiog, lle mae darparu nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol yn ran ganolog ohono.  Gallai enghreifftiau gynnwys hyrwyddo cynlluniau “ansawdd bwyd / gwarant fferm” sydd angen canolbwynt amgylcheddol clir.  Gellir gwella ymhellach effeithiolrwydd y gadwyn gyflenwi, cefnogi busnesau lleol a buddiannau’r economi wledig drwy arian y Polisi Amaeth Cyffredin a’r Rhaglen Datblygu Gwledig.  Pe byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyrwyddo cynlluniau o’r fath, cai hynny ei weld fel cyfle pellach i’r sector ffermio wella ei elw economaidd, lleihau ei filltiroedd bwyd a hefyd gyflenwi’r nwyddau a’r gwasanaethau amgylcheddol y mae cymdeithas yn eu mynnu.

3.12      Rydym ni o'r farn y dylid datblygu trefniadau drwy gynlluniau o’r fath a fyddai’n helpu i greu marchnad hyfyw i gynnyrch amaethyddol.  Byddai pwyslais ar gwsmeriaid, yn ogystal ag ar y sectorau masnachol a chyhoeddus, i leihau eu milltiroedd bwyd drwy brynu cynnyrch lleol (Gwerth Cymru).  Dylid hyrwyddo strategaethau caffael bwyd (gan ddefnyddio Systemau Rheoli Amgylcheddol) sy'n asesu ôl troed amgylcheddol pob adnodd sy'n cael ei ddefnyddio mewn mentrau, gan gynnwys bwyd.  Gellid cymharu hynny gyda Systemau Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd sy’n hyrwyddo ymarferion busnes da a hefyd yn darparu buddion amgylcheddol yn ogystal ag economaidd.   O gael ei arwain gan Lywodraeth Cymru, gallai’r farchnad hon gydnabod a hyrwyddo’r buddion cyhoeddus ac amgylcheddol pwysig y gallai rheolwyr tir eu cynnig yn y dyfodol.  Gallai hefyd hyrwyddo dyheadau'r "Strategaeth Swyddi Gwyrdd i Gymru" lle y byddai’r “elfen werdd” yn yr economi nid yn unig yn gwneud synnwyr amgylcheddol da ond hefyd yn gyfle sylweddol i fusnesau ledled Cymru[9]

3.13      Gellid cyfuno mesurau’r Cynllun Datblygu Gwledig yn well mewn ffyrdd sy’n cadw biwrocratiaeth i’r lleiaf posibl a hefyd yn sicrhau y bydd darpariaeth prosiectau yn y dyfodol yn cael eu dal yn atebol yn erbyn amcanion allweddol yr Undeb Ewropeaidd.  Mae amaethyddiaeth Cymru yn diwallu amrywiaeth helaeth o wasanaethau ecosystemau ar hyn o bryd, rhai yn denu arian cyhoeddus.   Fe ddylem weld gwir werth yr hyn y mae amaethyddiaeth Cymru yn gallu ei gynnig i gymdeithas yn cael ei gydnabod drwy’r Polisi Amaeth Cyffredin.  Mae yna gyfle gwych i amaethyddiaeth Cymru arwain y byd – cynnig canlyniadau gwirioneddol a fydd o fudd i ffermwyr ac o fantais i’r amgylchedd.

 

(C2)      Beth ddylai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fod yn ei drafodaethau ynghylch Diwygio'r Polisi Amaeth Cyffredin er mwyn sicrhau fod Cymru ar ei hennill?

 

3.14      Wrth drafod Diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin, dylai Llywodraeth Cymru nodi fod sicrhau cydymffurfiad â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn flaenoriaeth allweddol.   Gan fod y Gyfarwyddeb yn gosod amcanion heriol ynghylch amddiffyn iechyd ecolegol yr amgylchdedd sy'n seiliedig ar ddŵr, mae'n hanfodol bwysig eu bod yn cael eu cynnwys mewn ymarferion rheoli tir yn y dyfodol a'u bod yn gallu cynorthwyo’r diwydiant i gyfarfod â heriau amgylcheddol, yn enwedig dyheadau’r Fframwaith Amgylcheddol Genedlaethol.

 

3.15      Roedd yn rhaid cyflwyno Cynlluniau Rheoli Basn Afon y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr a Rhaglen o Fesuriadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr erbyn mis Rhagfyr 2009. Mae gan Aelod Wladwriaethau dair blynedd (tan 2012) i weithredu eu Rhaglen o Fesuriadau er mwyn cyrraedd amcanion amgylcheddol erbyn 2015.Hefyd yn 2015, bydd yn rhaid i Aelod Wladwriaethau ddiweddaru eu Cynlluniau Rheoli Basn Afon a’r Rhaglen o Fesurau.   Mae’r amserlen, a’r ffaith y bydd y Polisi Amaeth Cyffredin diwygiedig yn cael ei weithredu o 2014 ymlaen, yn gyfle unigryw i sefydlu cyswllt dealladwy a chadarn rhwng gweithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a thrawsgydymffurfiad y Cynllun Taliad Sengl.

Y Cynllun Taliad Sengl

 

3.16      Mae sut y bydd y Cynllun Taliad Sengl yn cael ei weinyddu yn dal yn bwnc trafod llosg yng Nghymru.   Mae cyfleoedd a bygythiadau yn codi o system taliadau ar sail hanesyddol neu ar sail arwynebedd.   Hyd yma, y sail hanesyddol a ddefnyddiwyd yng Nghymru; mae’n symlach i’w weinyddu a’i weithredu o gymharu â sail arwynebedd yn unig ac mae wedi lleihau'r peryglon o newidiadau strwythurol sydyn yn y diwydiant.  

 

3.17      Mae cyfran fwyaf  elw y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru yn dal i ddod o’r Polisi Amaeth[10]. Ar gyfartaledd, daw 80% o Incwm Busnes ffermwyr Cymru o’r Cynllun Taliad Sengl.   Fodd bynnag, mae’n anorfod y bydd symudiad at dalu ar sail arwynebedd ac y bydd hynny'n achosi cryn dipyn o ail wampio ar y taliadau yng Nghymru.  Gallai hynny fod yn ddifrifol i fusnesau ffermydd ac i gynnyrch amaethyddol Cymru.  Mae yna bryderon ynghylch sut y gallai symud at dalu ar sail arwynebedd effeithio ar ffermydd teuluol traddodiadol Cymru.    Mae'r gwaith modelu a wnaed hyd yma'n awgrymu y byddai yna gryn ailddosbarthu ar daliadau yn y gymuned amaethyddol yng Nghymru.   O dan gynllun taliad gwastad, rhagwelir y byddai yna symudiad sylweddol ar daliadau o’r iseldir i’r ucheldir, gyda holl oblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hynny.  

           

3.18      Y bwriad yng nghynigion diweddaraf diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin yw talu 40% mewn taliad arwynebedd - 60% mewn taliad hanesyddol ym Mlwyddyn Un.  Byddai hynny’n cael cryn effaith ar Gymru sydd, ar hyn o bryd, yn gweithredu’r dull Cynllun Taliad Sengl hanesyddol.   Gallai effeithio ar ddyfodol y sector llaeth, sydd y ffynhonnell fwyaf o ddigwyddiadau llygredd Categori 1 a 2.  Mae diffyg elw yn y diwydiant llaeth yn creu trafferthion ar hyn o bryd ond gallai hefyd fod ar ei golled o dan gynigion yr ‘elfen werdd’ a fyddai’n gosod cyfyngiadau ar faint o aceri y gellid eu defnyddio i dyfu porthiant.  Gallai’r colledion ariannol a ragwelir fod yn hynod o galed mewn cyfnod pan mae’n rhaid i’r diwydiant llaeth wella ei berfformiad amgylcheddol drwy fuddsoddi i wella sut y mae tail a phiswail yn cael ei gadw.  O gofio fod yn rhaid i bob Aelod Wladwriaeth symud at daliad arwynebedd unffurf erbyn mis Ionawr 2019 mae’n rhaid cael trefniadau dros dro a fydd yn galluogi'r diwydiant ffermio, yn enwedig y diwydiant llaeth, i addasu.  

 

3.19      Rydym ni’n ymwybodol y gallai modiwleiddio gorfodol yr Undeb Ewropeaidd ddod i ben o dan y cynigion presennol ar gyfer y Polisi Amaeth Cyffredin.   Fodd bynnag, rydym ni’n nodi hefyd fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi caniatáu hyblygrwydd rhwng Colofnau a fydd yn rhoi'r dewis i Aelod Wladwriaethau symud hyd at 10% o derfyn uchaf arian cenedlaethol i Golofn 1 i gefnogi mesurau Colofn 2.   Rydym ni hefyd yn nodi bod rhyddid i Aelod Wladwriaethau symud hyd at 5% o Golofn 2 i gefnogi mesurau Colofn 1.   Rydym ni’n cydnabod fod modiwleiddio , hyd yma, wedi bod yn bwysig o ran ariannu a’i fod wedi cefnogi Tir Gofal, a Glastir erbyn hyn.   Mae’n bwysig cael digon o arian yn y dyfodol i gefnogi ymarferion rheoli tir cynaliadwy sy'n hanfodol ar gyfer darparu ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r Fframwaith Amgylcheddol Genedlaethol.

 

(C3)      Sut y gall Cymru sicrhau fod ei barn yn dod yn rhan o’r broses drafod?

3.20      O gofio’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth Cymru a phwysigrwydd economaidd ac amgylcheddol taliadau’r Polisi Amaeth Cyffredin i reolwyr tir Cymru, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar Senedd Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau’r canlyniadau gorau i Gymru o dan y Polisi Amaeth Cyffredin.   Dylai Llywodraeth Cymru weithio’n agos â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i ffurfio safbwynt y DU yn y trafodaethau.  Mae’n bwysig hefyd fod Llywodraeth Cymru'n cadw cysylltiad â rhanddeiliaid yng Nghymru wrth baratoi ei safbwynt ar Ddiwygio'r Polisi Amaeth Cyffredin.

3.21      Nid yw Cymru ar ei phen ei hunan wrth wynebu Diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin.  Mae Lloegr, yr Almaen a’r Ffindir eisoes wedi newid eu system taliadau o fodel hanesyddol i un seiliedig ar arwynebedd.  Mae gweinyddiaethau datganoledig eraill y DU hefyd yn yr un sefyllfa.  Mae Llywodraeth yr Alban wedi cynnal Ymchwiliadau i sut y gellid teilwra cefnogaeth ariannol i amaethyddiaeth a datblygu gwledig i wireddu dyheadau Llywodraeth yr Alban.    Roedd “Ymchwiliad Pack”, a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol fis Tachwedd 2010, yn archwilio seilio taliadau uniongyrchol ar arwynebedd ond dangosodd y byddai yna gryn wahaniaeth mewn talid i ffermydd o'r un math a rhwng rhanbarthau pe newidid sail y taliadau o rai hanesyddol i rai'n seiliedig ar arwynebedd.    Cadarnhawyd mai ffermydd da byw fyddai'n dioddef fwyaf.  Gellid dweud yr un peth am Gymru sy'n ddibynnol iawn ar gig eidion, llaeth a defaid ac mae ei hinsawdd a'i statws Ardaloedd Llai Ffafriol hefyd yn debyg.

4.0        CASGLIAD

4.1       Cafwyd newidiadau mawr ym mholisi amaeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.    Bydd yn dal i newid a bydd pwysau o Drysorlys y DU, y Comisiwn Ewropeaidd a sefydliadau byd-eang yn debyg o orfodi newidiadau hyd yn oed yn fwy mewn polisïau a marchnadoedd bwyd a ffermio’r Undeb Ewropeaidd.   Bydd hyn, yn ogystal â’r angen i ymateb i newid hinsawdd yn cyflymu ailstrwythuro'r sector amaethyddol, sydd eisoes ar y gweill.

 

4.2       Gall amaethyddiaeth gael dylanwad mawr ar yr amgylchedd, yn enwedig ar adnoddau naturiol y mae cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw (e.e. dŵr yfed, ansawdd pridd, dyfroedd ymdrochi / pysgod cregyn, rheoli peryglon llifogydd a bioamrywiaeth).   Er mwyn sicrhau y bydd yr adnoddau yn cael eu hamddiffyn, dylai’r Polisi Amaeth Cyffredin ganolbwyntio ar yr effeithiau hyn a hyrwyddo twf cynaliadwy yn y dyfodol.  

 

4.3       Rydym ni o’r farn y dylai rhaglen nesaf y Polisi Amaeth Cyffredin gynnwys cefnogaeth i gyrraedd gofynion y Gyfarwyddeb Fframwiath Dŵr a chydnabod y rhan y gallai chwarae mewn addasu a lliniaru ar gyfer newid hinsawdd.   Dylid gwarchod elfennau allweddol y cynllun presennol os ydyn nhw'n gwella'r amgylchedd a dylai’r "elfen werdd" gyd-fynd yn hytrach na gwanhau'r manteision hynny.  

 

4.4       Dylid cryfhau trawsgydymffurfiad i sicrhau y gweithredir y safonau sylfaenol ehangach ac ychwanegu gweithredu wedi’i dargedu i wella’r amgylchedd.

 

4.5       I gyrraedd gofynion y Gyfarwyddeb Fframwiath Dŵr, dylai Diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin ac arian Datblygu Gweledig ddal i hyrwyddo ymarferion amaethyddol cynaliadwy ac amlygu'r angen sylfaenol y dylai pob sector amaethyddol wella ei berfformiad amgylcheddol.   Dylai hyrwyddo datblygu cynaliadwy a chyfuno pryderon amgylcheddol barhau yn egwyddorion allweddol.

 

 

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru – Ansawdd Tir Cymru - 02.11.11

 

 



[1] Withers P, Royle S, Tucker M, Watson R, Scott P, Silcock P, Smith G & Dwyer J (2003) Field development of grant aid proposals for the control of diffuse agricultural pollution. Cynhyrchwyd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd ac English Nature. An Environment Agency R&D Technical Report P2-261/09/TR.

[2] Ecologic, 2010. Assessment of agriculture measures included in the draft River Basin Management Plans http://ec.europa.eu/environment/water/quantity/pdf/summary050510.pdf

[3] Mae gwasanaethau amgylcheddol yn codi o ffermwyr, coedwigwyr ac eraill yn rheoli nwyddau a gwasanaethau ecosystemau.

Gall rhai agweddau o nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol godi heb ymyrraeth ddynol. Mae gwasanaethau amgylcheddol yn disgrifio’r elfennau sy’n cael eu darparu gan reolwyr tir sy’n gwneud mwy nag sydd raid o dan ofyniad rheoliadau a lle nad oes marchnad yn bodoli i dalu am y buddiannau cyhoeddus sydd wedi’u darparu.

[4] Ffigwr yn seiliedig ar drosi amcangyfrif Llywodraeth Cymru o gyfanswm y Taliadau Sengl a dderbyniwyd yng Nghymru yn flynyddol (tua £292 miliwn) ars raddfa gyfnewid yr ewro o €1.14 i £1 ar 11 Chwefror 2010. 

[5] Datganiad i’r Wasg gan y Comiwiwn Ewropeaidd, Rural Development Plan for Wales, 20 Chwefror 2008 [Derbyniwyd 11 Chwefror 2010] 

[6] Mae’r Arolwg Busnes Ffermydd yn cynnwys 550 o fusnesau ffermo o’r prif fathau o ffermydd yng Nghymru.  Dim ond y ffermydd gyda Gofynion Llafur Safonol o fwy na 0.5 sy’n cael eu cynnwys yn y sampl, ystyrir felly fod yr arolwg yn cynrychioli busnesau ffermio masnachol.

[7] Llywodraeth Cymru (2011) Ymgynghoriad ar y safon Amod Amgylcheddol Amaethyddol Da i gyflwyno parthau byffer ger cyrsiau dŵr i daclo llygredd dŵr o ffermydd

 

[8] Scottish Government /SEARS Natural Scotland : Reducing the risk of water pollution – Diffuse Pollution GBR 19 : Keeping livestock

[9]               Ieuan Wyn Jones Cyhoeddiad wrth lansio  “Strategaeth Swyddi Gwyrdd Cymru”,              18 Tah 2008

[10]             Llywodraeth Cynulliad Cymru, Farming, Food and Countryside: Building a secure future              Annex1: Industry Challenges, Mai 2009 [Darllenwyd 10 February 2010]